Cymraeg
Biliau ynni yn eich drysu? Am arbed arian ar ynni i’r cartref?

Beth am fod yn rhan o Gymdogaeth Ynni, a gwylio eich biliau’n mynd lawr?
Mae pob Cymdogaeth Ynni yn grwp o gartrefi sydd am dderbyn yr her o ostwng faint o ynni maent yn defnyddio, gan gystadlu â chymdogaethau eraill ledled y DG ac Ewrop. Nid oes angen buddsoddi dim, does dim angen newid mawr yn eich ffordd o fyw. Y cwbl sydd ei angen yw newid y ffordd rydych yn defnyddio ynni yn eich cartref.
Does dim rhaid bod yn gymdogion i greu cymdogaeth, mae tîm o glwb neu gymdeithas yr un mor effeithiol.
Defnyddio’ch syniadau, arbed ynni a chael hwyl!
Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar 1 Rhagfyr 2011 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2012. Os na allwch drefnu eich tîm erbyn hynny, peidiwch â phoeni, gallwch roi tro arni pan fydd y gystadleuaeth yn dechrau eto yn Rhagfyr 2012.
Diddordeb? Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am sut mae’n gweithio neu cysylltwch â Karen Robinson yn Asiantaeth Ynni Hafren Gwy ar 0800 500 3076 neu ar e-bost ar karen@swea.co.uk
Allai eich cymuned chi fod yr orau am arbed ynni?
Ar wahân i’r biliau ynni llai, mae gwobr i’r tîm sy’n gwneud yr arbediad mwyaf a gwobrau eraill trwy gydol y gystadleuaeth am ymdrech a syniadau blaengar!
Help us save tons of co2! Join us





